Mae adroddiadau bod pennaeth BHS, Dominic Chappell wedi cael ei arestio am fethu â thalu trethi.

Mae lle i gredu i’r dyn 49 oed gael ei arestio ar 2 Tachwedd.

Yn ôl adroddiad yn y Sunday Times, dydy e ddim wedi talu hyd at £500,000 sy’n ddyledus i Adran Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Mae’r adran wedi gwrthod gwneud sylw, ond maen nhw wedi cadarnhau bod dyn 49 oed wedi cael ei arestio.

Bryd hynny, roedd y rheoleiddiwr pensiynau wedi annog Chappell a’i ragflaenydd i ddatrys sefyllfa pensiynau gweithwyr y cwmni.

Mae lle i gredu bod y rheoleiddiwr yn ceisio taliad o hyd at £350 miliwn ar ôl i’r cwmni chwalu ym mis Ebrill.