Mae Banc Tesco wedi gorfod ad-dalu gwerth £2.5 miliwn i’r 9,000 o gwsmeriaid a welodd arian yn diflannu o’u cyfrifon mewn ymosodiad gan hacwyr.

Dywedodd y busnes bod y gwasanaeth cwsmer wedi cael ei adfer yn llawn erbyn hyn, ar ôl cyfnod o rewi cyfrifon cwsmeriaid fel mesur diogelwch.

Roedd rhai cyfrifon wedi cael eu hacio dros y penwythnos ac mewn “rhai achosion” roedd arian wedi cael ei gymryd drwy dwyll, meddai prif weithredwr y banc Benny Higgins.

Roedd menyw o Gasnewydd yn un o’r rhai o fu’n siarad am ei phryder yn dilyn yr ymosodiad.

Dywedodd Benny Higgins: “Rydym wedi ad-dalu pob cwsmer a effeithiwyd gan yr ymosodiad ac wedi codi’r gwaharddiad ar ddefnyddio cyfrifon. Rydym hefyd eisiau sicrhau cwsmeriaid na chafodd eu manylion personol eu datgelu”.