Marks & Spencer
Mae cwmni Marks & Spencer wedi cyhoeddi y bydd yn cau tua 60 o siopau dillad a nwyddau cartref er mwyn canolbwyntio ar fwyd.

Mae hefyd wedi rhybuddio y gallai mwy na 2,100 o swyddi ddiflannu o dan gynlluniau i gau 53 o siopau dramor gan gynnwys 10 yn China, saith yn Ffrainc, a chau eu siopau yng Ngwlad Belg, Estonia, Hwngari a Lithwania.

Daw’r penderfyniad wrth i M&S ail-strwythuro’r cwmni gan effeithio tua 100 o siopau wrth iddyn nhw ganolbwyntio ar eu cadwyn o siopau bwyd Simply Food.

Fe gyhoeddodd y cwmni heddiw bod eu helw cyn treth wedi gostwng 18.6% i £231.3 miliwn yn y chwe mis hyd at 1 Hydref.