Mae disgwyl i ddwsinau o siopau Marks & Spencer ar y stryd fawr gau fel rhan o gynlluniau i ad-drefnu’r cwmni, sydd hefyd yn cynnwys rhoi’r gorau i werthu dillad.
Mae disgwyl cyhoeddiad gan y prif weithredwr Steve Rowe yr wythnos nesaf, yn ôl Sky News.
Cafodd Rowe ei benodi ym mis Ebrill yn lle’r Iseldirwr Marc Bolland.
Gallai’r siopau gau dros gyfnod o ychydig flynyddoedd, ac fe fydd adrannau dillad yn cael eu disodli gan adrannau bwyd.
Mae M&S wedi gwrthod gwneud sylw.
Fis Awst eleni, collodd 525 o weithwyr eu swyddi ym mhrif swyddfa’r cwmni.
Ymgais oedd hynny, meddai’r cwmni, i leihau costau er gwaethaf adroddiadau bod disgwyl i gostau’r cwmni godi 3.5% eleni.
Mae cyflogau gweithwyr hefyd wedi cael eu haddasu’n unol â’r Cyflog Byw.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai gwerthiant dillad yn ystod y chwarter hwn ostwng 3.9%, a hynny’n dilyn gostyngiad o 8.9% yn chwarter cynta’r flwyddyn, sef perfformiad gwaetha’r cwmni o ran gwerthiant ers dros ddegawd.
Mae llefarydd ar ran undeb gweithwyr siopau, Usdaw wedi dweud ei fod yn “siomedig” fod y newyddion wedi cyrraedd y wasg cyn i weithwyr gael gwybod am y cynlluniau.