Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi i arian ffug gael ei ddefnyddio yn ardal Betws-y- Coed.

Mae cyfres o achsoion wedi’u riportio dros yr wythnos ddiwetha’, lle mae papurau £50 wedi’u defnyddio i dalu am bethau rhad iawn.

Er mai rhywbeth prin iawn ydi twyll o’r math yma, mae Heddlu Gogledd Cymru yn galw ar berchnogion busnesau i fod yn ofalus wrth dderbyn arian papur.