Tref Aberaeron
Mae tref Aberaeron yng Ngheredigion wedi’i choroni heddiw yn enillydd y gystadleuaeth “Lleoedd Gorau yng Nghymru.”

Pleidleisiodd bron i 5,500 o bobol ar restr fer o 10 o leoedd, ac Aberaeron ddaeth i’r brig fel y lle mwyaf poblogaidd.

Dinbych-y-pysgod ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, a Gŵyr, yr Ardal gyntaf o Harddwch Naturiol Eithriadol ym Mhrydain, ddaeth yn ail a thrydydd yn eu trefn.

Mae’r gystadleuaeth gan y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru yn clodfori’r lleoedd a gaiff eu gwarchod, eu cynllunio’n ofalus neu eu gwella gan y system gynllunio ar gyfer cymunedau.

‘Gwarcheidwaid pwysig’

Wrth gyflwyno’r wobr i Faer Aberaeron Rhys Davies heddiw, dywedodd Llywydd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol, Phil Williams: “Mae Aberaeron yn llwyr haeddu ennill y teitl – ‘Y Lle Gorau yng Nghymru’. Mae effaith cynllunio yn amlwg yma wrth i chi gerdded drwy’r dref, sydd wedi’i chynllunio’n ofalus mewn arddull Georgaidd o amgylch yr harbwr.

“Mae Cynllunwyr wedi bod yn warcheidwaid pwysig o gymeriad y dref hon wrth iddi newid dros y 200 mlynedd diwethaf – o fod yn bentref pysgota bychan, i borthladd masnachu a thref adeiladu llongau ffyniannus i’r hyn a yw hi heddiw, sef canolfan fusnes fywiog a man poblogaidd i dwristiaid.”

 

‘Cyrchfan poblogaidd’

 

Ychwanegodd Peter Lloyd, Cadeirydd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru:

“Mae Aberaeron yn un o’r trefi cyntaf i gael ei chynllunio yng Nghymru, ac ers hynny mae wedi’i datblygu a’i rheoli gan y system gynllunio i fod yn gyrchfan poblogaidd i dwristiaid sydd hefyd yn darparu gwasanaethau i gymunedau yn ei chefnwlad eang.

“Rhoddodd gwaith cynllunio’r dref gan y Cyrnol Alban Gwynne a’r pensaer, Edward Haycock, enw da iddi fel ‘un o’r enghreifftiau gorau o faestref gynlluniedig ar raddfa fechan yng Nghymru’”.

Y 10 lle ar y rhestr fer oedd: Aberaeron (Ceredigion); Caernarfon (Gwynedd); Harbwr Mewnol Bae Caerdydd (Caerdydd); Dinbych (Sir Ddinbych); Gŵyr (Abertawe); Yr Ais (Caerdydd); Promenâd Llandudno a Stryd Mostyn (Conwy); Canol Tref Merthyr Tudful (Merthyr Tudful); Eryri (Parc Cenedlaethol Eryri) a Dinbych-y-pysgod, (Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro).