Safle Main Port Engineering, Doc Penfro (Llun o wefan y cwmni)
Mae degau o swyddi yn y fantol wrth i gwmni peirianyddol o Sir Benfro fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Fe aeth y cwmni Main Port Engineering i ddwylo’r gweinyddwyr ddydd Iau diwethaf ar ôl derbyn cais ‘dirwyn i ben’ gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Roedd hefyd disgwyl iddyn nhw wynebu gwrandawiad yn yr Uchel Lys heddiw, ond fe gafodd ei ohirio.

Yn ôl adroddiadau mae 69 o swyddi eisoes wedi’u torri ac mae dyfodol 88 arall mewn perygl.

Mae’r cwmni wedi derbyn grant gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “mae hyn yn gyfnod cythryblus iawn i’r cwmni, y gweithwyr a’u teuluoedd.

“Rydym yn cadw llygad barcud ar y sefyllfa ac yn ystyried sut allwn ni gefnogi’r gweithwyr sydd wedi’u heffeithio drwy gynlluniau Llywodraeth Cymru,” meddai wedyn.