Pencadlys Nissan yn Japan (dim hawlfraint)
Mae’r dadlau’n parhau wrth i Lywodraeth Prydain wadu eu bod wedi rhoi arian i gwmni ceir Nissan i wneud yn siŵr eu bod yn aros yng ngwledydd Prydain.

Mae’r cwmni o Japan hefyd yn gwadu eu bod wedi cael arian na ffafriaeth cyn cyhoeddi eu bod yn buddsoddi ymhellach yn eu ffatri yn Sunderland.

Ar y rhaglen deledu Question Time neithiwr, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Busnes Greg Clarke, mai hyder yn y diwydiant ceir yng ngwledydd Prydain oedd wedi arwain at y penderfyniad.

“Doedd yna ddim llyfr sieciau,” meddai. “Does gen i ddim llyfr sieciau.”

‘Angen cael gwybod’

Er hynny, mae arweinwyr y Blaid Lafur yn galw ar y Llywodraeth i fod yn agored am yr addewidion a wnaed i Nissan.

Yn ôl  eu canghellor, John McDonnell, a’r arweinydd, Jeremy Corbyn, mae angen cael gwybod be’n union oedd wedi ei ddweud wrth Nissan.

Roedd pennaeth y cwmni wedi dweud eu bod wedi cael “cefnogaeth ac addewidion” gan y Prif Weinidog mewn cyfarfod ynghynt yn y mis.

Ond, yn ôl y Llywodraeth a’r cwmni, addewidion i gefnogi’r diwydiant ceir yn gyffredinol oedd yn allweddol.