Mae diweithdra yng Nghymru wedi gostwng 4.3% yng Nghymru yn y chwarter rhwng mis Mehefin ac Awst, yn ôl ffigyrau newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Mae’n golygu bod 60,000 o bobol ddi-waith yng Nghymru ar hyn o bryd a bod 5,000 wedi dod o hyd i waith yn y chwarter hwnnw.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones bod y gostyngiad mewn diweithdra yng Nghymru wedi perfformio’n well na gweddill y Deyrnas Unedig am y “seithfed mis yn olynol”.

Ledled gwledydd Prydain, mae nifer y di-waith wedi codi 10,000 i 1,660,000 er bod y nifer o bobol mewn gwaith yn uwch nag erioed.

Ond mae’r nifer mewn gwaith wedi codi 106,000 i bron 32 miliwn – yr uchaf ers dechrau cadw cofnodion yn 1971.

Ac mae nifer y di-waith 118,000 yn is na blwyddyn yn ôl er gwaethaf y cynnydd a gyhoeddwyd heddiw.

Cymru’n perfformio’n well 

Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: “Mae’r gostyngiad mewn diweithdra yng Nghymru wedi perfformio’n well na gweddill y Deyrnas Unedig am y seithfed mis yn olynol.

“Mae gennym uchelgeisiau mawr i Gymru a’i heconomi a byddwn yn parhau i weithio’n galed i gefnogi busnesau a sicrhau bod yr amodau economaidd yno i greu a diogelu swyddi a hyfforddiant cynaliadwy.

“Dyna pam yr ydym yn buddsoddi £111 miliwn y flwyddyn nesaf i ariannu ein rhaglen prentisiaeth pob oed a swyddi dan hyfforddiant er mwyn cyrraedd ein targed o greu 100,000 o leoedd prentisiaeth yn ystod y Llywodraeth hon.”