Mae gwerth y bunt wedi gostwng bron i 20% yn erbyn y ddoler ers y bleidlais Brexit Llun: PA
Mae graddfa chwyddiant wedi codi i’w lefel uchaf ers dwy flynedd wrth i brisiau dillad, bwytai a gwestai gynyddu costau byw.

Roedd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) wedi codi’n uwch na’r disgwyl i 1.0% ym mis Medi – yr un lefel a mis Tachwedd 2014 – gan gynyddu o 0.6% ym mis Awst.

Roedd economegwyr wedi darogan cynnydd o 0.9%.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol does “dim tystiolaeth amlwg” bod gostyngiad yng ngwerth y bunt wedi’r bleidlais Brexit wedi cynyddu prisiau nwyddau.

Mae gwerth y bunt wedi gostwng bron i 20% yn erbyn y ddoler yn yr Unol Daleithiau ers i Brydain bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Roedd Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI), sy’n fesur ar wahân ar gyfer chwyddiant, ac sy’n cynnwys costau tai, wedi cynyddu i 2% ym mis Medi, o 1.8% ym mis Awst.