Mae gweithwyr mewn nifer o archfarchnadoedd yn ystyried dwyn achos yn erbyn eu cyflogwyr yn dilyn ffrae tros gyflogau.

Yn ôl rhai o weithwyr Tesco, maen nhw wedi colli arian ar ôl gweithio yn ystod oriau anghymdeithasol.

Mae cwmni cyfreithiol Leigh Day yn cynrychioli 17 o weithwyr sy’n honni eu bod nhw bellach yn derbyn llai o gyflog am weithio dros y penwythnos, gwyliau banc a thros nos.

Ond fe gododd cyflogau gweithwyr Tesco 3.1% i £7.62 yr awr ym mis Chwefror er iddyn nhw gwtogi ar gyflogau Sul a gwyliau banc ym mis Gorffennaf.

Fel rhan o’r pecyn a gafodd ei gyflwyno gan Tesco, cafodd gweithwyr ostyngiad ar nwyddau yn y siop, cynllun pensiwn a bonws o 5%.

Dywedodd y cwmni y byddai gweithwyr yn derbyn hanner cyflog ar ben eu cyflog llawn o fis Gorffennaf ymlaen pe baen nhw’n gweithio ddydd Sul a gwyliau banc.

Dywedon nhw y byddai 85% o’u gweithwyr ar eu hennill o dan y drefn newydd, a bod rhai yn derbyn dwywaith eu cyflogau arferol bellach.

Dywedodd y cwmni cyfreithiol fod trafodaethau ar y gweill, ond y gallai hynny arwain at achos llys pe bai’r trafodaethau hynny’n aflwyddiannus.