Mae pryder ynghylch cynlluniau i ddiddymu 66 o swyddi ar safle cynnal a chadw ger Maes Awyr Caerdydd.

Mae’r cwmni sy’n rhan o British Airways yn cynnal ymgynghoriad gyda’u gweithwyr ynghylch cynlluniau ad-drefnu.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, does dim achos i weithwyr boeni, ond mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig a’r Aelod Cynulliad lleol, Andrew RT Davies yn credu i’r gwrthwyneb.

Mewn datganiad, dywedodd: “Mae’r cynigion hyn yn destun pryder, yn enwedig o edrych ar ddyfodol tymor hir y cwmni yn y Fro.

“Dim ond y flwyddyn diwethaf y cafwyd hwb i weithrediadau pan gafodd ei ddewis i weithio ar yr awyren Boeing 787 Dreamliner, felly daw’r newyddion fel rhywfaint o syrpreis.

“Tra bod adroddiadau’n awgrymu mai diswyddiadau gwirfoddol fyddan nhw, mae peth pryder ymhlith staff y gallai hyn arwain at doriadau gorfodol i swyddi pe bai’r niferoedd yn annigonol.”