Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Julie James
Mae cwmni masnachol sy’n datblygu cymwysiadau i brosesu carbon deuocsid (CO2) wedi agor yng Nghaernarfon heddiw.

Fe aeth Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth Llywodraeth Cymru, Julie James, i agor y cwmni wedi i’r Llywodraeth ddyfarnu £345,000 i Brifysgol Bangor i ddatblygu cyfleusterau profi gwyrdd ar raddfa ddiwydiannol.

Mae’r cwmni Suprex, sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon, yn eiddo i Brifysgol Bangor a’r cwmni Phytovation.

Mae’n defnyddio dull prosesu arloesol sy’n fwy gwyrdd ac ecogyfeillgar na’r dulliau traddodiadol, a bydd y cynnyrch yn cael ei ddefnyddio mewn cyflasau, persawrau, a chynhyrchion cosmetig, gofal personol, maethyllol a fferyllol.

Dyma’r unig sefydliad yn y Deyrnas Unedig sy’n gwneud y math hwn o ymchwil a’r math hwn o waith.

‘Datblygu cemeg gwyrdd’
“Mae Suprex yn enghraifft wych o gwmni sydd wedi cael cymorth cynnar mewn maes sy’n bwysig i’r economi,” meddai Julie James, Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth.

“Dw i’n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni wedi chwarae rhan weithredol yn y cydweithredu hwn rhwng y byd academaidd a byd diwydiant, gan ddangos bod Cymru’n genedl arloesol.”

Ychwanegodd Andy Beggin, Prif Weithredwr Suprex, “Gan ein cwmni ni mae’r cyfarpar mwyaf amlbwrpas yn y DU ar gyfer prosesu CO2.

“Mae gennym hefyd gyfleusterau dadansoddi o’r radd flaenaf sy’n ein galluogi i ddatblygu cemeg gwyrdd a chynaliadwy er mwyn creu cynhyrchion a phrosesau newydd.

“Rydyn ni’n cydweithio â chwmnïau masnachol a grwpiau academaidd i ddatblygu’r cynhyrchion a’r prosesau hynny ar gyfer y farchnad.”