Llun cyffredinol o angladd Llun: PA
Mae ymgymerwr o’r Trallwng wedi ymddiheuro “o waelod calon” wedi i arch y person anghywir gael ei chludo i angladd.

Fe ddaeth y camgymeriad i’r fei pan dynnwyd y blodau oddi ar y plac ar lan y bedd a datgelu enw gwahanol i’r hyn yr oedd y galarwyr wedi’i ddisgwyl.

Roedd y gynulleidfa wedi eistedd trwy wasanaeth coffa yn eglwys Sant Cadfan, Llangadfan ddydd Gwener yn ddiarwybod nad yr arch gywir oedd yno.

Dywedodd perchennog cwmni R G Peate, Geraint Peate, wrth Golwg360 wrth son am y camgymeriad:  “Mi gafodd o’i ddelio hefo yn syth, ac mi wnaethon ni siarad hefo’r teulu ac maen nhw’n ddeall.

“Dw i wedi nabod y teulu ers blynyddoedd ond dydy hynny ddim yn ei gwneud hi ddim haws.

“Diolch i Dduw y cafodd ei sortio o fewn yr awr.”