Gwaith Port Talbot (Chris Shaw CCA2.0)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â chwmni dur Tata i drafod pecyn cymorth posib gan y Llywodraeth i hyfforddi gweithwyr ac annog ymchwil i gynnyrch newydd, cynaliadwy.

Mae’n gam arall yn yr ymdrech i geisio achub gweithfeydd y cwmni yng Nghymru wrth i straeon ledu bod Tata’n trafod uno gyda chwmni dur Thyssenkrupp yn yr Almaen.

Y gred yw na fyddai hynny ddim o angenrheidrwydd yn sicrhau dyfodol y gweithfeydd Cymreig ac mae un prynwr posib, Excalibur, wedi codi amheuon a yw Tata eisiau gwerthu o gwbl.

Pecyn y Llywodraeth

Byddai pecyn Llywodraeth Cymru’n cael ei anelu at weithwyr dur Tata, ym Mhort Talbot, Trostre, Shotton a Llanwern i helpu’r gweithfeydd i fod yn fwy effeithlon ac i wrthsefyll cystadleuaeth fyd-eang.

Mae hyn drwy brosiect i wella’r amgylchedd ym Mhort Talbot, lle mae’r safle dur mwya’ yng ngwledydd Prydain, a buddsoddi mewn cynnyrch cynaliadwy yn y safle yn Shotton.

‘Mwy gwydn’

Y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi hyder i bobol a busnesau yn nyfodol y diwydiant dur yng Nghymru ac yn gwneud y diwydiant yn fwy gwydn.

Ond mewn datganiad, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, y byddai Llywodraeth Cymru yn mynnu bod cwmni Tata yn cadw at rai “amodau” cyn rhoi unrhyw gymorth swyddogol.

Dywedodd ei fod yn trafod hyn â chwmni Tata ar hyn o bryd, ac mae golwg360 wedi gofyn pa amodau fydd y rhain.

‘Problemau mawr’

“Mae’n amlwg bod Tata Steel yn wynebu problemau mawr, gan gynnwys pensiynau ac ynni, sydd angen cymorth nifer o randdeiliaid i’w datrys. Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gefnogi’r diwydiant dur yng Nghymru,” meddai Ken Skates.

“Ein pryder mwya’ yw gweithlu Tata Steel a’r cymunedau cysylltiedig, a dyfodol cynaliadwy a hir dymor holl waith Tata Steel yng Nghymru.

Ychwanegodd y byddai’r Llywodraeth yn dal i gefnogi “unrhyw strwythur perchnogaeth yn y dyfodol”, a fyddai’n fwyaf tebygol o gadw swyddi.