Fe fydd archfarchnad Lidl yn rhoi’r gorau i werthu bagiau plastig o fis Gorffennaf nesa’ ymlaen.

Fe fydd y cwmni o’r Almaen yn cael gwared ar bob bag plastig  5c o’u siopau yng Nghymru, Lloegr a’r Almaen o Orffennaf 1, 2017, er mwyn arbed hyd at 63 miliwn o fagiau y flwyddyn. Mae hynny’n gyfwerth â 760 tunnell o blastig.

Yn ôl y cwmni, mae’n gobeithio y bydd y symudiad hwn yn gwneud i’w gwsmeriaid feddwl eto ynglyn â defnyddio bagiau plastig a “rhoi’r gorau i’r feddylfryd taflu-i-ffwrdd”.

“Bwriad y cynllun ydi hyrwyddo opsiynau eraill sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd,” meddai llefarydd ar ran Lidl UK.