Mae ymchwil newydd yn dangos bod y diwydiant ymwelwyr yng Nghymru wedi cael ei blwyddyn orau eto gyda 84% o fusnesau yr un mor brysur neu’n fwy prysur nag yn 2015.

Mae Arolwg Baromedr Busnesau Twristiaeth Cymru, a gyhoeddwyd heddiw wedi  holi dros 922 o fusnesau twristiaeth ymhob sector led-led Cymru.

Mae’r arolwg yn dangos fod cynnydd cyffredinol yn nifer yr ymwelwyr ymhob agwedd o’r diwydiant, gyda mwy o ymwelwyr yn dewis aros ym Mhrydain.

Un sector sydd wedi gweld twf yw safleoedd carafanau a gwersylla gyda dau ym mhob tri yn adrodd eu bod wedi cael mwy o ymwelwyr o’u cymharu â haf diwethaf.

Dywedodd 84% o ymatebwyr eu bod yn teimlo’n hyderus iawn neu’n weddol hyderus am y tymor sydd i ddod.

Wrth drafod effaith Brexit ar y diwydiant ymwelwyr, dywedodd 67% yn yr arolwg nad oedd wedi cael unrhyw effaith ar eu busnesau hyd yn hyn, ond y farn gyffredinol oedd bod yn rhaid aros i weld beth fydd yr effaith lawn.

Punt wan

Roedd rhai ymatebion yn yr holiadur yn awgrymu y gallai’r bunt fwy gwan greu cyfle i’r diwydiant, ond roedd eraill hefyd yn nodi eu pryderon am golli’r cyllid y mae’r diwydiant ymwelwyr wedi’i dderbyn gan yr Undeb Ewropeaidd yn y gorffennol.

Dywedodd Cadeirydd Cymru o Gymdeithas Lletygarwch Prydain, Justin Baird Murray fod y diwydiant yn parhau i lwyddo tra’n wynebu heriau: “Yr haf hwn mae busnesau gwesty wedi cyflwyno profiadau gwych i ymwelwyr er bod prisiau yn parhau i fod yn gystadleuol iawn, mae gennym un o’r cyfraddau TAW uchaf yn Ewrop a chostau cynyddol.

“Rydym yn cyflogi 125,000 o bobol yng Nghymru gyda llawer mwy o fusnesau lleol yn dibynnu ar ein busnesau am eu hincwm, felly byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i wneud y gorau o farchnata 2017 a chael unrhyw help y gallwn i leihau ar y costau a hybu cyflogaeth i adeiladu ar dueddiadau cadarnhaol eleni.”

Croesawodd, Ken Skates ar ran Llywodaeth Cymru y ffigurau,  “Mae’n newyddion gwych bod y cipolwg hwn o uchafbwynt misoedd yr haf yn rhoi darlun cadarnhaol o sefyllfa’r diwydiant. Mae’n amlwg bod ansicrwydd wedi arwain at fwy o wyliau gartref a bod y tywydd sych hefyd wedi rhoi hwb i’r diwydiant.”

Ychwanegodd, “Yn gyffredinol, mae perfformiad twristiaeth yng Nghymru yn gadarn ac mae’r diwydiant yn parhau i gyflawni’r targed o 10% o dwf go iawn yn enillion ymwelwyr sy’n aros gartref erbyn 2020.”