Heulfan Rhyl - dechrau dymchwel. (Llun: Steve Hennessy, Twitter)
Mae’r gwaith wedi dechrau’r wythnos hon i ddymchwel canolfan hamdden Heulfan Y Rhyl sydd wedi bod ynghau ers cyfnod.

Daw hyn fel rhan o gynlluniau Cyngor Sir Ddinbych i ailddatblygu ardal Glan Môr y dref.

Mae cais cynllunio wedi’i gyflwyno gan Neptune Developments ar gyfer y datblygiad, ac mae’r cynllun wedi’i rannu i bum parth penodol ar hyd arfordir Y Rhyl.

Mae’r cynlluniau’n cynnwys creu parth diwylliannol a lletygarwch sy’n golygu ailwampio Theatr y Pafiliwn, adeiladu gwestai a bwytai newydd, dymchwel yr Heulfan gan ei hadleoli a chanolfan ddyfrol a hamdden newydd.

Mae bwriad hefyd i greu parth hamdden gyda gweithgareddau awyr agored ynghyd â pharth adloniant i’r teulu.

Mae’r cynllun Glan Môr werth tua £29 miliwn ac yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Ddinbych, gyda gweddill yr arian yn dod drwy’r sector breifat gan gwmni Neptune Developments.