Llun: PA
Fe fydd protest y tu allan i archfarchnad Lidl yng Nghaerdydd yn cael ei chynnal gan aelodau o undeb llafur sy’n brwydro tros hawliau i gynrychioli gweithwyr yn un o archfarchnadoedd y de.

Fis diwethaf, fe enillodd undeb y GMB her gyfreithiol yn erbyn Lidl – oedd yn ceisio rhwystro 200 o weithwyr siop ym Mhen-y-bont ar Ogwr rhag cael eu cynrychioli.

Ond mae Lidl wedi dweud y bydd yn herio’r dyfarniad hwnnw.

Mae’r GMB yn galw am wella cyflog a thelerau’r gweithwyr yn ogystal ag amodau gwaith mwy derbyniol ar y safle ym Mhen-y-bont.

Fe fydd aelodau’r undeb yn ymgynnull yng Nghaerdydd heddiw, gan ddweud y bydden nhw’n cynnal mwy o brotestiadau os yw Lidl yn parhau â’r her.

Dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol y GMB, John Phillips: “Ni ddylai meddylfryd Lidl a’i bwriad i roi’r fargen orau i gwsmeriaid fod ar draul safonau gwaith a hawliau’r gweithwyr.”