Fe fu gostyngiad o 10,000 yn nifer y bobol sy’n ddi-waith yng Nghymru, yn ôl y ffigurau diweddaraf. Mae’n ostyngiad o 35,000 o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Ond mae’r bwlch rhwng Cymru a gweddill gwledydd Prydain yn parhau i dyfu.

Mae’r gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi codi i 4.1% tra bod cyfradd Prydain wedi aros ar 4.9%.

Ar hyn o bryd 73.2% o’r Cymry sydd mewn gwaith, o’i gymharu â chyfartaledd Prydain o 74.5%.

Ffigurau gwledydd Prydain

Cyfradd waith gwledydd Prydain bellach yw 74.5%, ac mae 31.8 miliwn o bobol mewn gwaith erbyn hyn, sy’n gynnydd o 174,000 o’i gymharu â’r chwarter blaenorol.

Bellach, mae 1.63 miliwn o bobol yn ddi-waith, sy’n ostyniad o 39,000 yn ystod y chwarter, a 190,000 yn llai na’r un cyfnod y llynedd.

Roedd 771,000 o bobol wedi hawlio budd-dal gwaith rhwng mis Gorffennaf ac Awst, sy’n gynnydd o 2,400.

Roedd 3,000 yn fwy o swyddi ar gael – 752,000 rhwng mis Mehefin ac Awst.

Roedd cyflogau i fynu 2.3% am y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Ystadegau bod y ffigurau’n dangos gwelliant yn y farchnad waith.