Ken Skates
Mae un o’r cwmnïau sganio dogfennau mwyaf yn y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y byddan nhw’n ehangu eu busnes yng ngogledd ddwyrain Cymru gan greu swyddi newydd.

Mae Cleardata, sydd â’i bencadlys yn Northumberland, wedi prynu safle 1.8 erw oddi wrth Lywodraeth Cymru ym Mharc Busnes Penarlâg, lle mae’n buddsoddi £1.5 miliwn er mwyn adeiladu swyddfeydd a warysau newydd, ac mae’r gwaith eisoes wedi dechrau.

Mae’r cwmni wedi derbyn cymorth gwerth £304,000 o dan y Grant Datblygu Eiddo i helpu gyda’r buddsoddiad hwn, lle byddan nhw’n creu 18 o swyddi newydd ac yn diogelu tair arall.

Eisoes, mae gan y cwmni swyddfa ranbarthol ym Mrychdyn, Sir y Fflint.

Cleardata
Cwmni sy’n sganio dogfennau ac yn storio archifau yw Cleardata.

Maent yn cynnal systemau proffesiynol i ddiogelu’r dogfennau rhag dŵr a thân, ynghyd â system mynediad biometrig yn ddibynnol ar olion bysedd.

“Dw i’n falch iawn fod Cleardata wedi dewis ehangu a buddsoddi yma yng Nghymru,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi.

“Bydd y cwmni’n creu amryw o gyfleoedd newydd am swyddi wrth iddo ehangu yng Nghymru er mwyn diwallu’r galw cynyddol ledled y DU am ei wasanaethau sganio dogfennau, storio archifau a rheoli dogfennau,” meddai wedyn.