Castell Caernarfon (Llun: Herbert Ortner CCA 3.0)
Heddiw yw’r diwrnod olaf i bobol fedru rhoi barn ar gynllun i newid y drefn barcio ar Faes Caernarfon, neu Sgwâr y Castell.

Fis yn ôl, fe wnaeth Cyngor Gwynedd lansio ymgynghoriad a oedd yn gofyn i bobol leol os fydden nhw’n hapus i weld cerbydau llwytho yn cael mynediad i’r Maes cyn 8:30yb ac ar ôl 7yh.

Ar hyn o bryd nid oes gan unrhyw berson, heblaw am ddeiliaid bathodynnau glas, hawl parcio am gyfnod ar y safle. Mae’r cyfyngiadau parcio hyn wedi bod mewn grym ers mis Ebrill 2013.

‘Hyblygrwydd’ 

Ond mae Cyngor Gwynedd wedi awgrymu newid, fyddai hefyd yn gweld pobol anabl yn cael parcio ar y Maes am dair awr, o’i gymharu â’r awr a hanner bresennol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Yn sgil newidiadau diweddar i reoliadau arwyddion traffig sy’n caniatáu mwy o hyblygrwydd i awdurdodau, mae’r Cyngor wedi adolygu’r cyfyngiadau presennol ar y Maes.

“Mae’r Cyngor yn croesawu barn busnesau a defnyddwyr ar y cynigion. Yna, bydd y Cyngor yn ystyried yr holl sylwadau a dderbyniwyd fel rhan o’r ymgynghoriad cyn penderfynu ar y ffordd ymlaen.”