Un o gartrefi'r cwmni ym Mhentyrch, Caerdydd Llun: Redrow
Mae cwmni adeiladu, sydd a’i bencadlys yn Sir y Fflint, wedi cyhoeddi ei elw blynyddol mwyaf erioed er gwaetha’r pryderon am Brexit.

Mae cwmni Redrow hefyd yn darogan blwyddyn “arbennig” arall wedi iddyn nhw weld cynnydd o 8% yn eu helw cyn treth i £250 miliwn yn y flwyddyn hyd at 30 Mehefin.

Mae cyfranddaliadau’r cwmni wedi codi 8%  heddiw yn dilyn y cyhoeddiad.

Meddai’r cwmni mai “ychydig iawn o effaith” a gafodd y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd wrth i gytundebau preifat godi 12% a phrisiau cyfartalog tai yn codi 7% i £288,600.

Dywedodd prif weithredwr Redrow John Tutte bod y flwyddyn ariannol ddiwethaf wedi bod yn un “rhagorol” ar gyfer y cwmni.

Mae Redrow hefyd wedi cyflogi 300 o bobl yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan fynd â chyfanswm ei weithlu i ychydig o dan 2,000.