Perchennog Sports Direct, Mike Ashley, tu allan i bencadlys y cwmni yn Swydd Derby Llun: Joe Giddens/PA Wire
Mae Sports Direct wedi dweud y bydd yn cynnig mwy na’r isafswm cyflog i’w staff sy’n gweithio yn ei warysau yn ogystal â rhoi’r gorau i gytundebau dim oriau i weithwyr yn dilyn adolygiad i arferion gwaith y cwmni.

Mae bwrdd Sports Direct wedi ymddiheuro am y ffordd y cafodd staff eu trin wedi i’r adroddiad ddod i’r casgliad bod “diffygion difrifol” yn warws y cwmni yn Swydd Derby.

Bydd y siop nwyddau chwaraeon nawr yn cynnig yr opsiwn o naill ai gytundeb dim oriau neu gytundeb parhaol gyda “nifer gwarantedig o 12 o oriau’r wythnos” i weithwyr.

Bydd hefyd yn diwygio ei drefn disgyblu ac yn talu mwy na’r isafswm cyflog i’w staff.

‘Angen adolygiad ehangach’

Daeth perchennog y cwmni, Mike Ashley, o dan y lach yn yr adroddiad gan mai ei gyfrifoldeb ef oedd yr amodau gwaith “anfoddhaol”.

Mae’r biliwnydd, sydd hefyd yn berchen ar glwb pêl-droed Newcastle, wedi wynebu pwysau cynyddol gan gyfranddalwyr yn y cyfnod sy’n arwain at gyfarfod cyffredinol blynyddol y cwmni ddydd Mercher gyda galwadau i ailwampio’r bwrdd a lansio adolygiad annibynnol ar unwaith i’r amodau gwaith yn ei ffatrïoedd.

Dywedodd Iain Wright, cadeirydd Pwyllgor Busnes Tŷ’r Cyffredin a fu’n ymchwilio i amodau gwaith yn Sports Direct, ei fod yn croesawu’r adroddiad ond  dywedodd nad oedd yn mynd yn ddigon pell.

Ychwanegodd  bod angen adolygiad ehangach a mwy annibynnol o arferion llywodraethu corfforaethol y cwmni.