Cwmni GHA Coaches yn Riwabon ger Wrecsam Llun: Gwefan GHA Coaches
Mae’n debyg bod tua 50 o gyn-weithwyr cwmni  bysiau aeth i’r wal, GHA Coaches, yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi mynd at gyfreithwyr dros y ffordd y cawson nhw eu diswyddo.

Ym mis Gorffennaf eleni, collodd 320 o weithwyr eu swyddi pan gyhoeddodd y cwmni bysiau o Riwabon, Wrecsam, ei fod wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr.

Yn ôl rhai o’r gweithwyr, cawson nhw wybod eu bod nhw wedi colli eu swyddi drwy neges destun, ac roedd rhai yn dal i fod ar shifft pan wnaethon nhw glywed y newyddion.

Mae adroddiadau bod 48 o’r gweithwyr wedi mynd at gwmni cyfreithwyr JMW Solicitors ym Manceinion.

Yn ôl y cyfreithwyr, mae posibilrwydd y gallai’r gweithwyr gael gwerth hyd at 90 diwrnod o gyflog.

Roedd GHA Coaches yn gwasanaethu’r ddwy ochr i Glawdd Offa gan gynnwys awdurdodau lleol Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy a Gwynedd.

Gwerthu 200 o fysiau

Yr wythnos ddiwethaf, dechreuodd y broses o werthu 200 o fysiau’r cwmni mewn arwerthiannau ar-lein, gan y gweinyddwyr, Grant Thornton.

Bydd yr arian sy’n cael ei godi yn mynd yn ôl i dalu dyledion y cwmni, ac mae disgwyl arwerthiannau pellach ym mis Hydref a Thachwedd.