Mae cwmnïau benthyg arian yn cael eu cyhuddo o ymddwyn yn anghyfrifol trwy roi benthyciadau i bobl na all fforddio’u talu’n ôl.

Mae arolwg gan Ganolfan Ateb i Bopeth wedi darganfod fod rhai cwmnïau nad ydyn nhw’n holi cwsmeriaid yn ddigonol am eu sefyllfa ariannol.

Roedd yr elusen wedi helpu un dyn 33 oed a gafodd benthyciad diwrnod cyflog er gwaethaf y ffaith ei fod yn dioddef o iselder ac alcoholiaeth, nad oedd ganddo gyfeiriad sefydlog, wedi cael ei ddatgan yn fethdalwr ac yn erbyn incwm budd-daliadau yn unig.

Mae adroddiad Canolfan Ateb i Bopeth yn dangos bod 78% o’r benthycwyr nad ydynt yn cael eu gwirio’n ddigonol yn mynd i drafferthion wrth geisio talu eu dyledion.

Mae hefyd yn dangos rhai cwmnïau benthyg arian yn mynnu bod eu cwsmeriaid yn datgelu eu cyfrineiriau bancio ar y we fel eu bod yn gallu mynd at eu harian heb eu caniatâd.

“Mae’n amlwg fod rhai cwmnïau benthyciadau diwrnod cyflog yn anwybyddu canllawiau’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol,” meddai Gillian Guy, prif weithredwr Canolfan Ateb i Bopeth.

“Mae’n bryd i’r Awdurdod droi ei ganllawiau’n rheolau, gan orfodi pob benthyciwr diwrnod cyflog i wneud gwiriadau trylwyr ar ddarpar fenthycwyr i rwystro pobl rhag mynd yn ddyfnach ac yn ddyfnach i ddyled.”