Llun: Clive Gee/PA Wire
Mae disgwyl i 35 o siopau olaf  BHS gau eu drysau’r wythnos hon, gyda’r cwmni’n diflannu o’r stryd fawr yn gyfan gwbl erbyn y penwythnos.

Mae siopau ym Mae Caerdydd ac Abertawe ymhlith y 35 olaf i gau.

Mae disgwyl i weinyddwyr ar ran y gadwyn o siopau gau 13 o’r siopau ddydd Mercher a 22 ddydd Sadwrn, gan ddod a chyfnod y cwmni ar y stryd fawr i ben ar ôl 88 mlynedd.

Mae’r gweinyddwyr Duff & Phelps a FRP Advisory eisoes wedi cau 128 o siopau dros yr wythnosau diwethaf gan gynnwys prif siop BHS yn Oxford Street yn Llundain.

Mae methiant y cwmni ym mis Ebrill wedi effeithio 11,000 o swyddi ac wedi arwain at ymchwiliad seneddol gyda’i gyn-berchnogion Syr Philip Green a Dominic Chappell yn ymddangos  o flaen ASau.

Syr Philip Green oedd yn berchen ar BHS am 15 mlynedd cyn gwerthu’r cwmni i Dominic Chappell am £1 yn 2015.

Mae Syr Philip Green wedi cael ei feirniadu’n chwyrn am adael diffyg o £571 miliwn yng nghronfa bensiwn y cwmni.