Fe ddaeth cadarnhad gan Heddlu De Cymru eu bod yn ymchwilio i ladrad arfog yng nghymdeithas adeiladu’r Halifax ar Heol Albany, Caerdydd, brynhawn ddoe.

Chafodd neb ei anafu, a chafodd dim ei ddwyn yn ystod y digwyddiad.

Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 12.50yp brynhawn Sadwrn, ond chafodd neb ei arestio. Mae’r ymchwilio yn parhau er mwyn ceisio dod o hyd i’r dyn oedd yn gyfrifol.

Mae cyllell fawr, pâr o fenyg a helmed fotorbeic wedi’u canfod yn Alfred Street gerllaw, ac fe fydd y rhain yn cael eu harchwilio’n fforensig.

Fe gafodd nifer o bobol eu dwyn i’r ddalfa o’r ardal leol yn dilyn y digwyddiad, ond maen nhw bellach wedi’u rhyddhau.