Mae pedwar myfyriwr o Wynedd wedi ’darganfod’ 200 o swyddi newydd posib ym Mharc Menai ger Bangor, ar ôl treulio amser yn gweithio i gwmnïau uwch-dechnoleg yn y parc busnes.

Cafodd Daniel Layton o’r Groeslon, Dylan Hughes o’r Waufawr, Eben Muse o Garmel a Caeo Harri o Ddinas Mawddwy brofiad gwaith gyda rhai o fusnesau digidol mwyaf blaenllaw yr ardal, i ymchwilio i’r cyfleoedd sy’n bodoli i bobol leol.

Tra’n gweithio gyda’i gilydd, mae’r grŵp wedi canfod y gallai cwmnïau digidol ym Mharc Menai eu hunain greu 200 o swyddi gwerth uchel newydd petai’r sgiliau iawn ar gael yn rhwydd yn lleol.

Cyfleoedd cyflogaeth

Meddai Daniel Layton, sydd ar fin dechrau cwrs gradd mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi: “Doeddwn i ddim yn sylweddoli cyn hyn faint o gyfleoedd cyflogaeth TG sydd yn yr ardal leol, yn enwedig ym Mharc Menai.

“Yr unig amser fues i erioed yn ymweld â’r parc busnes oedd ar gyfer seremoni’r fflam Olympaidd, felly doedd gen i ddim syniad faint o swyddi oedd ar gael yma.”

Mewn digwyddiad agored yn Nghanolfan Pontio, Bangor, ar 31 Awst bydd y grŵp yn cyflwyno eu canfyddiadau a’u hargymhellion i’r hyn y gellir ei wneud i gefnogi pobl o’r ardal, yn enwedig yr ifanc, i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar garreg eu drws.

‘Her go iawn’

“Mae’r grŵp wedi tynnu sylw at her go iawn sydd gennym i gyd yma yng Ngwynedd,” meddai Rachel Roberts o Arloesi Gwynedd Wledig.

“Ar yr un llaw mae gennym y canfyddiad ymhlith pobl ifanc bod yr ardal yn gyfyngedig o ran cyfleoedd gwaith yn y sector TG, tra’r un pryd, mae cwmnïau technolegol blaenllaw sydd wedi’u lleoli yma yn cael trafferth recriwtio i swyddi gwerth uchel.”

Derbyniodd y prosiect gyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.