Gallai cwmnïau sy’n gwerthu cynlluniau osgoi treth i fusnesau wynebu dirwyon trwm dan gynigion newydd Llywodraeth Prydain.

Dywedodd y Trysorlys y gallai cyfrifwyr sy’n helpu unigolion a chwmnïau cyfoethog yn anghyfreithlon gael eu gorfodi i dalu dirwyon o hyd at 100% o’r dreth sydd heb ei dalu.

Gallai banciau sy’n gwneud elw o werthu cynlluniau osgoi treth anghyfreithlon hefyd yn cael eu dirwyo o dan y cynigion.

Ar hyn o bryd, dyw cyfrifwyr ddim yn wynebu llawer o risg wrth werthu’r cynlluniau tra gall eu cleientiaid wynebu dirwyon os ydyn nhw’n cael eu dal.

Dywedodd un o bwyllgorau craffu Tŷ’r Cyffredin y llynedd bod rhai cwmnïau cyfrifeg mawr yn gwerthu cynlluniau osgoi treth ar raddfa fawr.

Mae’r Prif Weinidog Theresa May a’i rhagflaenydd David Cameron wedi addo mynd i’r afael ag osgoi treth ers i Bapurau Panama gael eu cyhoeddi ym mis Ebrill.