Mae’r ystadegau diweddara’ i gael eu cyhoeddi am nifer y teithwyr sy’n defnyddio Maes Awyr Caerdydd, yn dangos fod y busnes yn dal i dyfu.
Yn ôl y ffigyrau ar gyfer mis Gorffennaf eleni, mae 17% yn fwy o bobol wedi teithio trwy’r Rhws.
Mae cyfanswm y bobol sy’n defnyddio’r maes awyr ar gyrion y brifddinas bellach yn 1,326,923 y flwyddyn, ac mae’n dangos cynnydd o 29% yn y nifer o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Fe fydd ehediad newydd sbon o Gaerdydd i Berlin yn cael ei gyflwyno ddechrau Hydref eleni.