Mae caffi MG’s yn Aberystwyth wedi cyhoeddi y bydd yn cau ei ddrysau am y tro olaf ym mis Hydref ar ôl 13 o flynyddoedd.

Mewn datganiad ar eu tudalen Facebook, dywedodd y perchnogion eu bod nhw wedi gobeithio aros am ddwy flynedd arall ond nad oes modd cynnal eu busnes yn y farchnad sydd ohoni.

Dywedon nhw fod rhent, biliau, gorbenion a chostau staffio’n golygu nad oes modd parhau â’u busnes.

“Dydy Aber ddim yn farchnad sy’n tyfu ar hyn o bryd, felly yr un yw’r gacen tra bod y darnau’n mynd yn llai o hyd.”

Dywedon nhw fod y “brandiau sy’n dod i mewn yn ddeniadol” ac y byddai’r cwmnïau annibynnol yn “colli allan yn y pen draw”.