Fe fydd 32 o bobol yn colli eu gwaith yn Llanberis oherwydd bod cwymp wedi bod yn y galw am gynnyrch, meddai cwmni Siemens.

Mewn datganiad i golwg360 heddiw, mae’r cwmni yn dweud eu bod yn gorfod torri swyddi, ond y byddan nhw hefyd yn gwneud eu gorau i gydweithio ag undebau a gweithwyr.

“Bydd pob ymgais yn cael ei wneud i wneud y newidiadau hyn drwy ddiswyddiadau gwirfoddol a rolau adleoli pan fo hynny’n bosib,” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

“Bydd (y cwmni) yn ymgynghori â gweithwyr, a’u cynrychiolwyr. Bydd Siemens Laboratory Diagnostics yn gweithio’n agos gyda gweithwyr sydd wedi’u heffeithio i ddod â chanlyniad cadarnhaol.”

Meddai’r Cyngor… 

Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi ymateb i’r newyddion y bydd swyddi’n mynd yn Llanberis.

“Mae Siemens yn gyflogwr lleol pwysig ac mae’r ffaith fod rhai swyddi yn debygol o gael eu colli yn amlwg yn ergyd i’r economi leol,” medden nhwthau mewn datganiad ddiwedd pnawn Llun.

“Rydym yn croesawu’r ffaith bod y cwmni yn ymdrechu i weld cyfloedd eraill ar gyfer y rhai fydd yn cael eu heffeithio o fewn y cwmni. Bydd swyddogion o Adran Economi a Chymuned y Cyngor yn gweithio gyda pharterniaid eraill er mwyn adnabod cyfloedd hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer unrhyw weithwyr fyddai’n cael eu heffeithio.”