Mae cwmni Siemens wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cael gwared â 32 o swyddi yn eu ffatri yn Llanberis, Gwynedd.

Bydd y swyddi yn cael eu torri o gwmni Laboratory Diagnostics y cwmni, sy’n darparu technoleg i’r diwydiant iechyd.

Mae Siemens yn gwmni rhyngwladol, sydd wedi’i leoli yn yr Almaen, ac mae’n cyflogi tua 348,000 o bobol ledled y byd.

“Colled fawr i’r ardal”

“Mae hi’n golled fawr i’r ardal, yn enwedig i’r 32 o deuluoedd sy’n cael eu heffeithio,” meddai’r cynghorydd sir lleol, Trevor Edwards.

“Maen nhw’n cyflogi rhwng 400 a 500 o bobol (yn Llanberis), dw i’n gwybod mai canran fach ydy 32 ond wedyn mae fo’n 32 o bobol ac yn 32 o deuluoedd.

“Dyna le mae’n hitio mwyaf. Mae gweithwyr wedi bod ‘na ers blynyddoedd, a rhai gyda phlant bach.

“Mae’n mynd i effeithio ar economi Llanberis ei hun hefyd. Bydd llai o bres yn mynd allan o’r tŷ a phwy sy’n mynd i wario yn y siopau wedyn?

“Maen nhw (Siemens) yn gyflogwyr da yn yr ardal, maen nhw’n talu’n dda. Gobeithio dydy hyn ddim yn dechrau rhywbeth newydd, eu bod yn dechrau rhoi’r gorau ar fwy (o swyddi).

“Fo ydy’r cyflogwr mwyaf yn Llanberis. Mae gennych chi dros 1,000 o bobol yn gweithio yn Llanberis ei hun, mewn pentref bach o 2,000 o bobol.”