Llun: Steve Parsons/PA Wire
Fe wnaeth bron i 400,000 o gwsmeriaid adael cwmni Nwy Prydain yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn wrth i elw ei rhiant-gwmni, Centrica, ostwng.

Dywedodd Centrica, nad oes 399,000 o gartrefi yn y Deyrnas Unedig bellach yn cael eu hynni gan Nwy Prydain wrth i gwsmeriaid droi at gyflenwyr eraill.

Yn ôl prif weithredwr y cwmni, Iain Conn, roedd chwe mis cyntaf y flwyddyn wedi bod yn “anodd”.

“Mae hanner cyntaf y flwyddyn wedi bod yn anodd i Centrica, ond mae’r ymateb wedi bod yn gryf a dw i wedi fy nghalonogi o weld y cynnydd rydym wedi’i wneud,” meddai.

Ychwanegodd ei fod yn “parhau’n hyderus” yng ngallu’r cwmni i dyfu wrth “roi (ei) strategaeth ar waith.”

Fe wnaeth elw Centrica yn y DU ddisgyn 7% i £516 miliwn yn ystod y cyfnod hwnnw, tra bod refeniw’r cwmni wedi disgyn 13% i £13.3 biliwn.

Dim digon o fargenion

Dywedodd Claire Osborne, sy’n ddadansoddwr ynni gyda uSwitch.com, fod Nwy Prydain wedi methu â chynnig bargenion digonol i’w gwsmeriaid, er gwaethaf y prisiau ynni rhad ar hyn o bryd.

“Nwy Prydain yw’r unig gyflenwr sydd wedi torri ei brisiau safonol tair gwaith ers dechrau’r llynedd, felly mae ei brisiau amrywiol safonol yn parhau i fod gyda’r isaf ymhlith y chwe chwmni mawr,” meddai.

“Ond, mae ei fargen orau yn dal i fod mwy na £290 y flwyddyn na’r un rhataf ar y farchnad felly mae cwsmeriaid yn debygol o ddod o hyd i fargenion gwell drwy symud at gyflenwr arall.”