Mae cwmni bysus o Riwabon ger Wrecsam sy’n cyflogi dros 300 o bobl wedi mynd i’r wal.

Cyhoeddwyd neithiwr y byddai cwmni GHA Coaches, sy’n gwasanaethu’r ddwy ochr i Glawdd Offa gan gynnwys awdurdodau lleol Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy a Gwynedd yn dod i ben ar unwaith.

Mae gwasanaeth bws Traws Cymru rhwng Y Bermo a Wrecsam, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, hefyd yn cael ei redeg gan GHA.

Dywedodd Cyngor Wrecsam eu bod nhw wedi cael gwybod yn fyr rybudd iawn na fyddai GHA Coaches yn gweithredu bore heddiw ac mai’r flaenoriaeth ar hyn o bryd yw sicrhau bod disgyblion yn gallu mynd i’r ysgol y bore ‘ma.

‘Llenwi’r bylchau’

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, sydd â chyfrifoldeb dros yr amgylchedd a thrafnidiaeth ar Gyngor Wrecsam, mewn datganiad: “Rydym wedi cysylltu â gweithredwyr eraill ac yn hyderus y byddwn yn gallu darparu cludiant amgen trwy gyfrwng cerbydau eraill fel bysiau mini neu dacsis.”

Ond meddai nad yw’r sefyllfa yn hollol glir ar hyn o bryd a’u bod yn siarad gyda chynghorau eraill i ddarganfod ffyrdd eraill o lenwi’r bylchau yn amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus cyn gynted a bod modd.

“O ran y gwasanaethau trafnidiaeth ranbarthol gyhoeddus a ddarperir gan GHA, rydym yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill ar draws gogledd Cymru i leihau’r amhariad i wasanaethau y bydd y newyddion hyn yn ei gael yn y tymor byr.

“Rydym yn hyderus y bydd gweithredwyr eraill yn cymryd rhai o’r llwybrau ac wrth i’r sefyllfa ddod yn gliriach.”