Gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid sy’n defnyddio cangen HSBC ym Mlaenau Ffestiniog oedd yn gyfrifol am y penderfyniad i’w chau, meddai’r banc.

Yn ôl y llefarydd, fe fu gostyngiad o 40% yn nifer y cwsmeriaid fu’n mynd i’r gangen honno dros y bum mlynedd diwethaf.

Roedd cynghorwyr sir wedi mynegi pryder am y penderfyniad a fydd yn gadael y dref heb fanc.

Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran HSBC wrth golwg360 fod rhaid iddyn nhw “wneud penderfyniad anodd weithiau”, ond eu bod yn deall y gall cau cangen “achosi pryder i rai o’n cwsmeriaid”.

Y pryderon

Ni chafodd ymgynghoriad cyhoeddus ei gynnal cyn i’r cwmni wneud y penderfyniad, ac ni chafodd y Siambr Fasnach, y Cyngor Tref na Chyngor Gwynedd wybod ymlaen llaw.

Mae disgwyl i fusnesau’r dref ddioddef yn sylweddol yn sgil y penderfyniad, ac mae’r dref heb fanc dros dro.

Dwy o’r cynghorwyr sydd wedi mynegi pryder yw Mandy Williams-Davies (Diffwys a Maenofferen) ac Annwen Daniels (Bowydd a Rhiw).

Ymunodd Mandy Williams-Davies ag Aelod Seneddol Plaid Cymru, Liz Saville Roberts ac aelodau’r gymuned y tu allan i’r banc ddechrau’r wythnos.

‘Diwrnod trasig’

Bryd hynny, dywedodd y cynghorydd: “Mae hwn yn ddiwrnod trasig i Blaenau Ffestiniog. Dyma dref sydd â sector dwristiaeth ffyniannus heb ei hail yng ngogledd Cymru lle mae unigolion busnes a meddylfryd entrepreneuraidd.

“Dyma dref chwarelyddol draddodiadol sy’n llwyddo wrth greu mentrau cymunedol bywiog.

“Dyma dref sydd wedi derbyn buddsoddiad o £3.1 miliwn o gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd yn y blynyddoedd diwethaf. A’r wythnos yma, mae’r sector ariannol yn cyhoeddi’n swyddogol eu bod yn gadael y dref.”

‘Hoelen olaf yn arch bancio’r dref’

Ychwanegodd y Cynghorydd Annwen Daniels sy’n cynrychioli trigolion Ward Bowydd a Rhiw ym Mlaenau: “Mae’r sector ariannol yn rhoi’r hoelen olaf yn arch bancio Blaenau Ffestiniog ac yn gadael y dref heb unrhyw sefydliad bancio. Pa neges mae hynny’n ei chyfleu i unigolyn, busnes neu gwmni sy’n ystyried buddsoddi neu sefydlu busnes newydd yma ym Mlaenau Ffestiniog?

“Dros y ganrif ddiwethaf, mae ardal Blaenau wedi gweld cyfnodau anodd a cythryblus yn ei hanes – rydym wedi profi trafferthion economaidd caled wrth i’r diwydiant llechi leihau ac rydym wedi cael profiad o dlodi go iawn yma. Ond drwy’r cyfan, mae yna ymdeimlad cryf o ysbryd cymunedol yma ym Mlaenau Ffestiniog.”

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Williams-Davies: “Bydd Blaenau Ffestiniog yn goroesi’r gic mul hon hyd yn oed os yw Barclays, Nat West a hyd yn oed HSBC yn gadael y dref. Mi barhawn i frwydro oherwydd bod y gallu a’r penderfyniad ynom i wneud.”

Gwasanaethau Cymraeg

Mae penderfyniad HSBC i gau’r gangen ym Mlaenau Ffestiniog yn golygu bod gwasanaethau Cymraeg y banc hefyd yn dod i ben.

Dywedodd y Cynghorydd Annwen Daniels: “Mae yna sôn dro ar ôl tro gan y banciau y gall pobl gael mynediad i fancio ar-lein tra bod canghennau ar draws Cymru yn cau eu drysau.

“Nid oes gair o Gymraeg ar gael ar wasanaeth bancio HSBC ar-lein i gwsmeriaid sy’n dymuno defnyddio eu mamiaith, os ydych chi’n ddigon ffodus, hynny yw, i allu derbyn gwasanaeth band eang digonol mewn nifer o’r lleoliadau gwledig yn yr ardal.

“Rhaid cofio mai cymuned Cymraeg ei hiaith, yn bennaf yw’r Blaenau, a byddwn, nid yn unig yn colli swyddi lleol, ond hefyd yn colli gwasanaeth cwsmeriaid lleol gan bobl broffesiynol yn y Gymraeg.

“O adael y dref, byddwn felly, yn colli ein hawl i gyfathrebu a thrafod busnes gyda’r HSBC yn ein dewis iaith, y Gymraeg.”

‘Penderfyniad anodd’

“Rydym yn adolygu ein rhwydwaith o ganghennau’n gyson er mwyn sicrhau bod ein canghennau yn y lleoedd cywir i’n cwsmeriaid, ac mae gennym rwydwaith gynaladwy ar gyfer y dyfodol.”

Ychwanegodd fod gostyngiad o 40% wedi bod yn y defnydd o’r gangen dros gyfnod o bum mlynedd, a bod hynny wedi arwain at y “penderfyniad anodd”.

“Dydy’r rhain ddim yn benderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn hawdd ac rydym yn cydweithio’n agos â’r rheiny sy’n cael eu heffeithio, gan gynnwys cwsmeriaid a staff, i’w helpu i ddeall eu dewisiadau.

“Rydym yn deall y gall cau canghennau achosi pryder i rai o’n cwsmeriaid. Rydym wedi cyflwyno nifer o fesurau i helpu, gan gynnwys partneriaeth gyda Swyddfa’r Post, felly gall ein cwsmeriaid barhau i wneud eu bancio o ddydd i ddydd.”