Syr Philip Green
Mae cyn-berchennog BHS, Syr Philip Green, am gynnig swyddi i 1,000 o staff yn ei gwmni manwerthu Arcadia, wythnos ar ôl iddo gael ei holi gan Aelodau Seneddol ynglŷn â methiant y gadwyn o siopau.

Mae’r gweithwyr ar hyn o bryd yn cael eu cyflogi gan gonsesiynau Arcadia fel Dorothy Perkins a Wallis, o fewn siopau BHS.

Mae’n debyg bod y biliwnydd, sy’n berchen Topshop, hefyd wedi rhoi cyfarwyddyd i’w swyddogion i helpu rhai o’r 10,000 o weithwyr eraill BHS i ddod o hyd i swyddi newydd.

Yn ystod gwrandawiad yn y Senedd wythnos diwethaf fe ymddiheurodd Syr Philip i’r staff am fethiant y cwmni ac fe gyfaddefodd ei fod wedi gwerthu’r busnes i’r “dyn anghywir.” Dywedodd hefyd y byddai’n mynd i’r afael a’r diffyg o £571 miliwn yng nghronfa bensiwn y cwmni.

Cafodd ei feirniadu am werthu’r cwmni i Dominic Chappell am £1 yn 2015.

Mae BHS, oedd a 163 o siopau, yn y broses o gael ei ddirwyn i ben gan y gweinyddwyr Duff & Phelps.