Mae cwmni Domino’s Pizza wedi cyhoeddi heddiw eu bod am greu 700 o swyddi newydd yng Nghymru wrth iddyn nhw edrych ymlaen at haf prysur rhwng Ewro 2016 a’r Gemau Olympaidd.

Mae hyn yn rhan o gynllun ehangach i greu 10,000 o swyddi newydd ar draws y Deyrnas Unedig, gan agor 65 siop newydd.

Mae hyn yn cynnwys 1,900 o swyddi yn ne ddwyrain Lloegr, 1,400 yn Llundain, 1,300 yng ngogledd ddwyrain Lloegr a 1,000 yng ngogledd orllewin Lloegr.

Mae’r cwmni wedi profi ffyniant diweddar yn eu busnes, ac fe wnaethon nhw agor 61 siop newydd yn y Deyrnas Unedig y llynedd.

Ym mis Mawrth, fe gyhoeddon nhw fod prisiau isel caws wedi bod o gymorth wrth iddyn nhw wneud eu helw’r llynedd.

“Mae 2016 yn flwyddyn fawr i Domino’s, mae gennym gynlluniau i agor tua 65 o siopau newydd a byddwn ni’n gweini mwy na saith miliwn o pizzas yn ystod yr Ewros yn unig,” meddai Prif Weithredwr y cwmni, David Wild.