Mae disgwyl i’r rhestr fer o brynwyr posib ar gyfer safleoedd cwmni dur Tata yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys ei safle ym Mhort Talbot, gael eu cyhoeddi ddiwedd yr wythnos hon.

Roedd saith prynwr posib wedi cyflwyno ceisiadau cyn y dyddiad cau ar Fai 23.

Ymhlith y rheiny y mae disgwyl iddyn nhw gyrraedd y rhestr fer, mae’r grŵp o reolwyr Tata yn y Deyrnas Unedig, Excalibur; y cwmni Liberty House dan arweiniad Sanjeev Gupta; a grŵp ecwiti preifat o Leeds, Endless.

Y cwmni ymgynghorol, KPMG, sydd wedi bod yn adolygu’r ceisiadau fel rhan o’r broses werthu, ac roedd disgwyl iddyn nhw gyhoeddi’r rhestr fer yr wythnos diwethaf.

 ‘Colli allan’ ar y rhestr fer

Mae adroddiadau’n honni y gallai Greybull Capital ynghyd â’r cynhyrchwyr dur o India JSW; gwneuthurwr dur o China Hebei; a’r biliwnydd a’r buddsoddwr o’r UDA Wilbur Ross; golli allan ar y rhestr fer.

Yn ogystal, mae sôn bod cwmni dur Tata bellach yn ystyried cadw gweddill eu busnesau ym Mhrydain, a hynny yng ngoleuni’r pecyn newydd o gymorth gan y Llywodraeth.

Doedd y cwmni KPMG ddim ar gael i roi sylwadau, ond nid oes disgwyl penderfyniad terfynol ar ddyfodol cwmni dur Tata yn y Deyrnas Unedig tan ar ôl refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ymhen tair wythnos.

Diogelu swyddi yn Scunthorpe

Cwmni arall a gyflwynodd gais oedd Greybull Capital.

Ddoe, fe wnaethon nhw gadarnhau eu bod wedi cwblhau’r broses o brynu busnes Long Products gan Tata gan ddiogelu miloedd o swyddi yn Scunthorpe.

Byddan nhw’n ailenwi’r cwmni yn ‘British Steel’, ac maen nhw’n cyflogi 4,400 o bobl yn y Deyrnas Unedig a 400 yn Ffrainc.

Mae’r cwmni hefyd yn cwmpasu safle Scunthorpe, dwy felin yn Teesside, gweithdy yn Workington, cwmni sy’n ymgynghori ar ddylunio yng Nghaerefrog, cyfleusterau dosbarthu a melin yng ngogledd Ffrainc.