Safle Tata ym Mhort Talbot, lle mae miloedd o swyddi yn y fantol
Mae Aelod Seneddol Aberfan, Stephen Kinnock wedi galw am sicrwydd gan gwmni dur Tata ei fod yn bwriadu aros yn y DU yn y tymor hir.

Daw’r alwad gan Kinnock ar ôl i’r cwmni o India awgrymu ei fod yn barod i ystyried peidio gwerthu rhannau Prydeinig y busnes, gan gynnwys y safle ym Mhort Talbot.

Byddai 4,100 o swyddi ym Mhort Talbot yn y fantol wrth i drafodaethau tros ddyfodol y safle barhau.

Y prynwyr posib

Grŵp Stuart Wilkie, sy’n gweithio ar y safle ym Mhort Talbot, yw Excalibur. Mae’r grŵp eisoes wedi rhybuddio y gallai hyd at 1,000 o swyddi gael eu colli pe baen nhw’n prynu’r busnes yn y DU, ac fe fyddan nhw’n awyddus i weithwyr fuddsoddi yn y busnes.

Perchennog Liberty House, Sanjeev Gupta oedd y cyntaf i fynegi diddordeb pan ddaeth y cyhoeddiad bod Tata yn bwriadu gwerthu’r busnes yn y DU. Mae lle i gredu y byddai Gupta yn newid y ffordd y mae’r cwmni’n cael ei redeg, gan roi pwyslais ar ailgylchu dur.

Mae Excalibur a Liberty House wedi bod mewn trafodaethau gyda’i gilydd, sydd wedi arwain at adroddiadau y gallen nhw fod yn barod i gyflwyno cais ar y cyd, ond mae Excalibur wedi wfftio’r adroddiadau, gan ddweud eu bod nhw wedi cyflwyno cais ar eu pen eu hunain.

Mae cwmni Greybull Capital newydd brynu safle Tata yn Scunthorpe, gan arbed miloedd o swyddi.

Hwb i’r diwydiant

Mae Llywodraeth Prydain hefyd wedi awgrymu y bydden nhw’n fodlon camu i mewn er mwyn newid cynllun pensiwn y cwmni i hwyluso cytundeb i werthu’r busnes.

Ond mae’n ymddangos y bu peth gwelliant yn y farchnad ddur dros y dyddiau diwethaf, sydd wedi arwain at ddyfalu y gallai Tata benderfynu peidio gwerthu’r busnes yn y DU wedi’r cyfan.

Dywedodd Aelod Seneddol Llafur Aberafan, Stephen Kinnock wrth raglen ‘Sunday Supplement’ Radio Wales: “Os felly, popeth yn iawn.

“Os ydyn nhw am aros, fe fydden ni’n croesawu hynny mewn egwyddor.

“Ond byddwn i’n dweud, yn ymarferol, fod gweithwyr dur yn fy etholaeth, eu teuluoedd a chymunedau o’u cwmpas wedi bod trwy uffern dros y blynyddoedd diwethaf ac yn sicr ers mis Mawrth pan gafodd y gwerthiant ei gyhoeddi.

‘Amheuaeth a dicter’

“Dw i’n credu y bydd modd maddau iddyn nhw am drin unrhyw newyddion fod Tata yn aros gydag elfen o amheuaeth a dicter hyd yn oed.

“Felly dw i’n credu bod angen sicrwydd clir iawn gan Tata y byddan nhw yma yn y tymor hir, y bydd yna fuddsoddiad ac y byddan nhw’n gwneud yr hyn sydd angen ei wneud fel nad ydyn ni’n mynd yn ôl i’r dechrau’n deg ymhen deuddeg mis.”