Daily Post
Mae wyth swydd yn y fantol gyda phapur newydd y Daily Post yng ngogledd Cymru.

Dywedodd Grwp Trinity Mirror, sy’n berchen y papur, y byddan nhw’n creu chwe swydd newydd fel rhan o’r ailstrwythuro.

Mae’n debyg y bydd swydd gohebydd y papur yn y Cynulliad yn un o’r rhai fydd yn diflannu.

Meddai llefarydd ar ran Trinity Mirror: “Mae hyn yn rhan o waith parhaus i roi’r adnodd cywir ar waith i ddarparu’r newyddion mae ein cynulleidfaoedd eisiau, pan fyddant eisiau hynny, ac i sicrhau ein bod yn parhau i weithredu’n effeithlon.

Mae’r newydd yn ergyd arall i newyddiaduraeth yng ngogledd Cymru wedi i Grwp Trinity Mirror gyhoeddi y llynedd eu bod yn cau swyddfa’r Caernarfon and Denbigh Herald yng Nghaernarfon.

‘Angen gwasg gref’

Dywedodd Rhun ap Iorwerth AC, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Plaid Cymru: “Mae hyn yn newyddion pryderus. Mae’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru ar fin derbyn mwy o  gyfrifoldebau newydd, ac mae’n bwysig fod gennym wasg gref yn barod i graffu ar ein gwaith fel Aelodau Cynulliad.

“Mae’r Cynulliad yn debygol o chwarae rôl fwy amlwg ym mywydau pobl dros y blynyddoedd nesaf, ac mae’n drist bod y Daily Post fel petai’n cyfyngu ar ei allu i adrodd ar hyn. Byddaf yn ysgrifennu at y papur i godi fy mhryderon.”