Llun: PA
Mae staff caban awyrennau Thomas Cook wedi pleidleisio o blaid cynnal streic oherwydd anghydfod ynglŷn ag iechyd a diogelwch.

Roedd 74% o aelodau o undeb Unite wedi cefnogi cynnal streic.

Mae’r undeb yn gwrthwynebu newidiadau i gyfnodau egwyl.

Dywedodd llefarydd ar ran Thomas Cook eu bod yn “siomedig” bod aelodau’r undeb wedi penderfynu mynd ar streic.

“Diogelwch ein pobl a’n cwsmeriaid yw ein blaenoriaeth ac rydym yn dilyn y rheolau yn ymwneud a chyfnodau egwyl ein criw.

“Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Unite i fynd i’r afael a’u pryderon ac eisoes wedi cwrdd â’r gwasanaeth cymodi Acas er mwyn ceisio dod i ddatrysiad.

“Yn y cyfamser, rydym wedi rhoi cynlluniau yn eu lle er mwyn sicrhau bod ein cwsmeriaid yn gallu parhau i fynd ar eu gwyliau, er gwaethaf unrhyw streic bosib.”

Dywedodd swyddog Unite Oliver Richardson eu bod yn gobeithio bod y cwmni yn “cymryd sylw o’r bleidlais gref o blaid gweithredu ac yn gweithio gyda ni’n adeiladol er mwyn datrys yr anghydfod ac osgoi unrhyw weithredu diwydiannol.”

Mae aelodau Unite yn gweithio ar awyrennau sy’n teithio i safleoedd twristaidd poblogaidd o 10 maes awyr yn y DU.