Hen ysbyty meddwl Dinbych (Llun: Cyngor Sir Ddinbych)
Mae safle hen Ysbyty Meddwl Dinbych wedi’i roi ar y farchnad am bris o £2.25m – er bod Cyngor Sir Ddinbych wedi sicrhau pryniant gorfodol ar y safle.

Ond nid yw’r Pryniant Gorfodol wedi’i gwblhau eto ar gyfer safle hen Ysbyty Gogledd Cymru, ac mae’n parhau mewn proses gyfreithiol.

Am hynny, esboniodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ddinbych: “Yn dechnegol, mae gan y perchnogion Freemont Denbigh Ltd yr hawl i wneud hyn, gan nad yw’r safle wedi cael ei drosglwyddo i berchnogaeth y Cyngor.”

‘Adeilad hanesyddol’

Mae’r safle’n cael ei hysbysebu ar wefan Rightmove fel adeilad sydd â chyfle i’w ddatblygu.

Dywedodd y llefarydd ar ran y Cyngor Sir bod y broses o Bryniant Gorfodol yn “mynd rhagddo,” ac os caiff y safle ei werthu yn y cyfamser “bydd angen i’r Cyngor negydu gyda’r perchennog newydd.”

Ym mis Mawrth y llynedd, daeth y gorchymyn gam yn nes yn dilyn gwrandawiad cyhoeddus yn Amgueddfa Dinbych. Bwriad y Cyngor ar ôl prynu’r adeilad yw ei drosglwyddo i ofal Ymddiriedolaeth  Cadw er mwyn ei adfer.

“Prif ystyriaethau’r Cyngor ers y cychwyn yw gwarchod yr adeilad hanesyddol pwysig hwn ar y safle ac rydym wedi rhybuddio’r perchnogion dro ar ôl tro y byddai’r Cyngor yn ceisio am Rybudd Pryniant Gorfodol,” meddai’r llefarydd.

Mae disgwyl i’r arwerthiant gael ei gynnal ar Fai 26.