Mae'r newyddion am golli swyddi yn Abertawe'n dilyn dod â'r New Day i ben yn llwyr yr wythnos hon
Mae pedwar aelod o staff papur newydd y South Wales Evening Post yn Abertawe yn colli eu swyddi, yn ôl y BBC.

Y swyddi sy’n cael eu colli yw dau ffotograffydd, gohebydd chwaraeon ac is-olygydd.

Daeth un arall o gyhoeddiadau Trinity Mirror – y New Day – i ben yn llwyr yr wythnos hon.

Cafodd yr Evening Post ei brynu gan Trinity Mirror fel rhan o gytundeb gwerth £187.4 miliwn yn 2015.