Mae BT wedi cyhoeddi rhaglen gwerth £6 biliwn i uwchraddio ei rwydwaith ac ymestyn band eang cyflym i o leiaf 10 miliwn o gartrefi a busnesau ar draws y DU.

Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i osod llinellau ffibr optig i tua dwy filiwn o dai ac mae’r cwmni hefyd yn addo gwella ei wasanaeth i gwsmeriaid.

Daw’r cyhoeddiad gan BT wedi i’r rheoleiddiwr Ofcom fygwth gorfodi rhannu’r cwmni oddi wrth Openreach am ei fod yn rhy fawr.

Er na ddigwyddodd hynny, mae Ofcom wedi gorfodi’r cwmni i dorri’r prisiau sy’n cael eu codi  ar gyfer llinellau band eang cyflymder uchel, gosod mwy o linellau busnes a gwella gwasanaethau busnes.

Daeth manylion y cynllun wed i BT gyhoeddi cynnydd o 15% mewn elw cyn treth i £3.03 biliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Cododd refeniw’r cwmni 6% i £18.9 biliwn.