Fe fydd y papur newydd The New Day yn cau ddydd Gwener, naw wythnos ers ei lansio, cadarnhaodd y perchennog Trinity Mirror heddiw.

Mewn datganiad, dywedodd y cwmni bod The New Day wedi derbyn nifer o adolygiadau cadarnhaol ac wedi sicrhau dilyniant cryf ar Facebook ond bod cylchrediad y papur wedi bod “yn is na’n disgwyliadau.”

O ganlyniad mae Trinity Mirror wedi penderfynu cau’r papur ar 6 Mai.

Cafodd The New Day ei lansio ym mis Chwefror ac roedd y cwmni yn anelu at gylchrediad o 200,000 o gopïau’r dydd ond yn ôl adroddiadau, roedd y ffigwr tua 40,000.

Daeth lansiad The New Day pan fo gwerthiant papurau newydd wedi gostwng yn sylweddol wrth i ddarllenwyr droi at wefannau.

Roedd papurau newydd yr Independent a’r Independent On Sunday wedi cau eleni ar ôl tri degawd gan ymddangos ar y we yn unig.

Mae Trinity Mirror yn berchen ar bapurau newydd y Daily Mirror, y Western Mail a’r Daily Post.