Un o ganghennau'r RBS (David Edgar CCA3.0)
Mae banc yr RBS wedi gwneud colledion chwarter-blwyddyn o bron £1 biliwn – dwbl colledion yr un cyfnod y llynedd.

Ond, er hynny, mae llefarwyr ar ran y cwmni – sy’n parhau yn benna’ yn nwylo’r trethdalwyr – yn dweud eu bod ar y llwybr iawn i’w adfer.

Roedd y colledion yn chwarter cynta’r flwyddyn yn £968 miliwn o gymharu â £446 miliwn yn yr un chwarter y llynedd.

Y cefndir

Roedd incwm y banc wedi cwympo o £3.5 biliwn i £3biliwn ar ôl gwerthu un o’i fusnesau yn yr Unol Daleithiau.

Roedd hefyd wedi talu £1.2 biliwn i’r Trysorlys er mwyn cael yr hawl i ddechrau talu difidendau i gyfranddalwyr – roedd cytundeb yn mynnu eu bod yn talu difidend i’r Llywodraeth yn gynta’.

Hynny i gyd yn dilyn argyfwng 2008-9 pan brynodd Llywodraeth Brydain bron dri chwarter y cwmni er mwyn ei achub.

“Mae RBS yn parhau ar y llwybr iawn gyda’i gynllun i adeiladu banc cryf, syml a theg ar gyfer cwsmeriaid a chyfranddalwyr,” meddai llefarydd ar ran y banc.