Llun: PA
Mae banc Barclays wedi cyhoeddi gostyngiad yn ei elw yn nhri mis cynta’r flwyddyn.

Fe gyhoeddodd y grŵp elw cyn treth o £793 miliwn, o’i gymharu â £1.1 biliwn a wnaeth Barclays flwyddyn yn ôl.

“Amodau heriol” yn adran fuddsoddi’r banc sy’n cael y bai, wrth i elw’r busnes ostwng 31%.

Mae’r grŵp yn mynnu bod ei brif fusnes yn perfformio’n gadarn gydag elw’n cynyddu 18% i £1.6 biliwn, ond dywedodd bod hynny wedi cael ei effeithio gan adrannau eraill y busnes sy’n gwneud colledion.

Mae’r prif weithredwr Jess Staley, a oedd wedi cymryd yr awenau gan Antony Jenkins ym mis Rhagfyr, wedi bod yn ceisio diwygio’r grŵp gan gwtogi adran fuddsoddi’r banc a gwerthu adrannau tramor eraill.

Fe fydd penaethiaid Barclays yn wynebu cyfranddalwyr yn ei gyfarfod cyffredinol blynyddol ddydd Iau wrth i feirniadaeth gynyddu ynglŷn â phecyn cyflog Jess Staley, wrth i elw’r grŵp ostwng.