Y caban ar draeth Abersoch Llun: Countrywide
Mae disgwyl i gaban traeth yn Abersoch gael ei werthu am o leiaf £91,000 mewn ocsiwn yn Llundain ddydd Mercher.

Roedd pris cadw gwreiddiol o £85,000 wedi’i osod ar yr eitem anarferol.

Ond mae ei boblogrwydd yn golygu bod y pris cadw bellach wedi codi i £91,000.

Prisiau tai yn yr ardal

Ar gyfartaledd, pris tai Gwynedd yw £136,352 – y cyfartaledd drwy Gymru gyfan yw £122,573, yn ôl y Gofrestrfa Tir ym mis Mawrth eleni.

Ym Mlaenau Gwent y mae’r cyfartaledd isaf, a thai yn y fan honno’n costio £72,081 ar gyfartaledd.

Manylion y caban

12 troedfedd wrth 9 troedfedd yw maint y caban sydd eisoes wedi denu cynnig o £91,000, ac mae darn o’r traeth wedi’i gynnwys yn y pris.

Ond does gan y caban ddim cyflenwad trydan, dŵr na system ddraenio, a does gan berchnogion mo’r hawl i gysgu ynddo dros nos.

Ar wefan Countrywide, mae’n cael ei ddisgrifio fel caban sydd â golygfa dros Fae Ceredigion ac Ynysoedd Tudwal.

Y llynedd, cafodd caban tebyg yn Abersoch ei werthu am £100,000.

Bydd yr ocsiwn yn cael ei gynnal yn ardal Piccadilly yn Llundain y prynhawn yma.

Dywedodd asiantaeth Beresford Adams yn Abersoch wrth Golwg360 nad ydyn nhw’n gwneud sylw ond y byddai rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi ar eu gwefan ar ôl yr arwerthiant.